Click here to go to English version

Gŵyl Cariad Aber

Aberystwyth’s Festival of Love

25 Ionawr - 14 Chwefror 2025

Dathlu Cysylltiad, Creadigrwydd a Chymuned

Beth yw Gŵyl Cariad Aber?

Mae Gŵyl Cariad Aber yn ŵyl gelfyddydol arbrofol sy’n dathlu cariad ym mhob ffurf - rhamantus, teuluol, a chariad at greadigrwydd a’r gymuned. Yn digwydd yn Aberystwyth rhwng Ionawr 25 a Chwefror 14, mae'r ŵyl yn trawsnewid ein tref mewn i hwb cyswllt a chreadigrwydd.

Llwybrau Celf

Mae’r llwybrau celf yn dod â chreadigrwydd i galon Aberystwyth, gan wneud celf yn hygyrch i bawb. Yn cynnwys gwaith gan artistiaid lleol a myfyrwyr Coleg Ceredigion, mae’r llwybrau yn troi ffenestri siopau a mannau cyhoeddus yn orielau bach i bawb eu mwynhau. Cerddwch o gwmpas y dref, mwynhewch yr hyn sydd i’w weld, a dathlwch y dalent sydd o fewn ein cymuned.

Marathon Lluniau

Cyfranwch eich lluniau chi o gariad a chreadigrwydd gyda’n marathon lluniau cymunedol. Ar agor i bawb, dyma’ch gwahoddiad i ateb heriau creadigol yn ystod yr ŵyl. Daw’r canlyniadau at ei gilydd mewn digwyddiad gweledol cyffrous, cydweithredol yn niweddglo’r ŵyl—rhywbeth na fyddwch eisiau ei golli.

Gweithdai Cynhwysol

P’un a ydych yn awyddus i ddysgu rhywbeth newydd, cysylltu ag eraill, neu hyd yn oed, yn syml, i fwynhau, mae ein gweithdai ar agor i bawb. O sesiynau ymarferol creadigol i ddysgu sgiliau, bydd y gweithdai hyn yn cael eu cynnal gan artistiaid, busnesau a lleoliadau lleol. Cadwch lygad ar ein rhaglen i gael manylion am sut i archebu a chymryd rhan.

Cerddoriaeth a Geiriau Lleisiol

Profiadwch pwer cerddoriaeth a’r gair llafar gyda pherfformiadau agos-atoch ar draws lleoliadau yn Aberystwyth. O farddoniaeth fyw i nosweithiau cerddorol wedi’u hysbrydoli gan gariad, bydd y digwyddiadau hyn yn tynnu talentau lleol i’r amlwg, gan ddathlu thema’r ŵyl mewn ffyrdd annisgwyl ac emosiynol.

Ymunwch â’r Ŵyl...

Artistiaid a Chrewyr

Mae ein Galwad Agored 2025 bellach wedi cau, ond mae’r ŵyl yn llawer mwy na’r rhaglen swyddogol yn unig. Ymunwch â’n cymuned greadigol drwy Stiwdio Gŵyl Cariad, rhannwch eich gwaith a dilynwch weithdai a chyfarfodydd am ddim. Mae pob artist, pob dull, a phob safbwynt yn cyfrannu at y sgwrs.

Busnesau

Siopau a Busnesau Er ein bod eisoes wedi dewis ein ffenestri artistiaid ar gyfer eleni, gallwch chi barhau i fod yn rhan o’r ŵyl! Dyluniwch eich ffenestr gyda’ch dehongliad creadigol eich hun ar gariad – boed hynny’n cael ei ysbrydoli gan Ddydd Santes Dwynwen, Dydd Sant Ffolant, neu beth bynnag mae cariad yn ei olygu i chi. Tagiwch ni yn eich lluniau a helpwch ni i lenwi'r strydoedd â chariad am dair wythnos arbennig. Does dim angen cofrestru – ymunwch yn syml.

Gwirfoddolwyr

Ymunwch â’r Criw! Rydym yn chwilio am bobl sy’n angerddol am ddod â’r celfyddydau i’n strydoedd. Helpwch ni i redeg digwyddiadau, dogfennu’r ŵyl, a sicrhau bod y flwyddyn gyntaf hon yn gadael ei hôl.